Teyrnged i Forwyr Masnaschol
"Cardiff born, Cardiff bred, Cardiff sailors, Cardiff dead.” – Jack Sullivan
Paentiodd Jack Sullivan hwn fel teyrnged i'r holl longau a’r dynion a hwyliodd o Gaerdydd, yn enwedig y rhai a roddodd eu bywydau, a byth dychwelyd gartref.
Mae'r bachgen ifanc yn y gornel dde uchaf yn cynrychioli pobl ifanc Caerdydd a wasanaethodd yn y llynges fasnachol. Roedd Raymond a Kenneth Lewis yn ddau frawd o Gaerdydd, yn ddim ond 15 a 14 oed pan gollon nhw eu bywydau ar yr S.S. Fiscus pan gafodd ei daro gan dorpido llong danfor ar 18 Hydref 1940. Credwyd eu bod wedi ffugio llythyr gan eu tad yn rhoi caniatâd iddyn nhw wasanaethu ar fwrdd y llong.
“Hwyliodd fy nhad John C Sullivan trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf mewn Llong Ffrwydron ac rwy’n falch iawn ohono!” – Jack Sullivan

