Ble mae Tiger Bay wedi mynd, Gydforwyr?

Mewn golygfa las tywyll, niwlog, mae pum morwr iasol o hen ddyddiau Tiger Bay yn sefyll o gwmpas, yn edrych yn ddryslyd. Wrth iddyn nhw edrych allan dros Sgwâr Loudoun a gweld blociau tŵr y 1960au o'u blaenau, maen nhw'n meddwl eu bod yn y lle anghywir.

Yng nghanol y 1800au, roedd Sgwâr Loudoun yn cael ei ystyried yn un o rannau gorau’r dref, yn llawn tai tref addurniadol a adeiladwyd ar gyfer y gweithwyr a ddaeth i Gaerdydd ar gyfer y fasnach glo oedd yn tyfu.

Erbyn diwedd y 1800au, dechreuodd teuluoedd cyfoethocach symud i ffwrdd o Sgwâr Loudoun. Ond parhaodd pobl o bob cwr o'r byd i ymgartrefu yn yr ardal, gan ffurfio cymuned unigryw oedd yn cynnwys llawer o hiliau, crefyddau ac ieithoedd gwahanol.  Daeth Sgwâr Loudoun yn adnabyddus fel "calon Tiger Bay."    

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd y galw am lo ostwng, ac erbyn y 1960au, roedd y rhan fwyaf o'r fasnach glo wedi dod i ben. Roedd llawer o bobl wedi colli eu swyddi, roedd adeiladau wedi'u gadael yn wag, ac roedd tai wedi dechrau mynd yn adfail.

Er mwyn adfywio'r ardal, cafodd yr hen dai tref ar hyd Sgwâr Loudoun eu dymchwel.  Chwalwyd cymunedau wrth i bobl a oedd yn byw yn y sgwâr gael eu symud i rannau eraill o'r ddinas.  Adeiladwyd y ddau floc o fflatiau a welwn ym mheintiad Jack, Tŷ Loudoun a Thŷ Nelson ar Sgwâr Loudoun.  

Dim ond dechrau ailadeiladu'r hyn yr ydym bellach yn ei adnabod fel Bae Caerdydd oedd y newidiadau hyn.  Ond i'r morwyr ym mheintiad Jack, roedd Bae Caerdydd a welwn heddiw yn fyd ar wahân i'r Tiger Bay yr oeddent wedi'i alw'n gartref.