Y tu ôl i Stryd Bute – Listwyr wrth eu Gwaith
Mae Jack Sullivan yn dangos ochr dywyllach ei baentiadau sydd fel arfer yn llachar a lliwgar. Yn yr olygfa nos hon, mae gang o droseddwyr yn ymosod ar forwr ger Stryd Bute. Gelwid y troseddwyr hyn yn listwyr, ac roedd y math hwn o ymosodiad yn cael ei alw'n "shanghaiing."
Yng nghanol y 1800au, roedd masnach lo Caerdydd yn ffynnu. Roedd llongau'n mynd a dod, ac roedd morwyr o bob cwr o'r byd yn cyrraedd y ddinas. Oherwydd hyn, daeth Tiger Bay yn lle prysur a chyffrous, ond hefyd yn fan poblogaidd ar gyfer rhai troseddau. Un o'i broblemau mwyaf oedd y gangiau o listwyr.
Roedd Listwyr yn aml yn rhedeg tai preswyl, lle gallai morwyr gysgu, bwyta a chael eu diddanu. Ond fe wnaethon nhw ddefnyddio hyn i dwyllo neu reoli'r morwyr a chymryd eu harian.
"Shanghaiing" oedd un o'r dulliau gwaethaf a ddefnyddiwyd i dwyllo morwyr. Byddai listwyr weithiau'n rhoi cyffuriau mewn diodydd morwyr neu’n hanner lladd y morwyr. Yna, byddent yn herwgipio'r morwyr a'u gwerthu i gapteiniaid llongau oedd angen gweithwyr. Erbyn i'r morwyr ddeffro, roedd y llong eisoes yn bell allan ar y môr, ac nid oedd ganddynt ddewis ond gweithio arni.

